2014 Rhif 1463 (Cy. 144)

iechyd planhigion, cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ynghylch iechyd planhigion sy’n gymwys yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2245 (Cy. 209)) i orfodi Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU (OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t.112), sy’n ymwneud â mesurau brys y caniateir eu cymryd yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum(Smith) Yabuuchi et al. o ran tatws sy’n tarddu o’r Aifft.

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer porth gwybodaeth rhwng Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) a Gweinidogion Cymru at ddibenion Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy.158)) ac ar gyfer trosedd ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn anghyfreithlon.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 i orfodi Penderfyniad 1/2010 y Cyd-bwyllgor ar Amaethyddiaeth (2011/83/EU) (OJ Rhif L 32, 8.2.2011, t.9), sy’n ymwneud â rheolaethau ynghylch iechyd planhigion wrth fasnachu deunydd planhigion gyda’r Swistir.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r buddion sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2014 Rhif 1463 (Cy. 144)

iechyd planhigion, cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

Gwnaed                                5 Mehefin 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Mehefin 2014

Yn dod i rym                      4 Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd ac y maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014.  Deuant i rym ar 4 Gorffennaf 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006([3]).

Diwygio Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004

2.(1) Mae Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004([4]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “y Penderfyniad” rhodder—

ystyr y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran yr Aifft ([5]);.

(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (mewnforion tatws sy’n tarddu o’r Aifft), yn lle “paragraff 1(b)(xi)” rhodder “paragraff 2.2(c).”

 

Diwygio’r GIP: porth gwybodaeth

3.(1) Ar ôl erthygl 44 o’r GIP, mewnosoder —

Power to share information for the purposes of the Order

44A.—(1) The Commissioners for Her Majesty’s Revenue and Customs may disclose any information in their possession to the Welsh Ministers for the purposes of this Order.

(2) Paragraph (1) is without prejudice to any other power of the Commissioners to disclose information.

(3) No person, including a servant of the Crown, may disclose any information received from the Commissioners under paragraph (1) if—

(a)   the information relates to a person whose identity is specified in the disclosure or can be deduced from the disclosure;

(b)   the disclosure is for a purpose other than specified in paragraph (1); and

(c)   the Commissioners have not given their prior consent to the disclosure..

(2) Yn erthygl 45 o’r GIP (troseddau)—

(a)     ym mharagraff (1)(a)—

                           (i)    mewnosoder—

(xviii) article 44A(3)”; a

(b)     ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) It is a defence for a person charged with an offence under paragraph (1)(a)(xviii) to prove that the person reasonably believed—

(a)   that the disclosure was lawful; or

(b)   that the information had already and lawfully been made available to the public..

(3) Yn lle erthygl 46 o’r GIP rhodder—

Penalties

46.—(1) Except as provided by paragraph (2), a person guilty of an offence under this Order is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.

(2) A person guilty of an offence under article 45(1)(a)(xviii) is liable—

(a)   on conviction on indictment, to imprisonment for a term not exceeding two years, to a fine or to both; or

(b)   on summary conviction, to imprisonment for a term not exceeding three months, to a fine not exceeding the statutory maximum or to both..

Diwygio’r GIP: Y Swistir

4.(1) Mae Atodlen 8([6]) (Pasbortau planhigion o’r Swistir) i’r GIP wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Rhan A—

(a)     yn lle paragraff 1 rhodder—

1. Plants, other than seeds, of Beta vulgaris L., Camellia sp., Hummulus lupulus L., Viburnum spp., Prunus L. not including Prunus laurocerasus L. or Prunus lusitanica L., and Rhododendron spp. not including Rhododendron simsii Planch, intended for planting.;

(b)     ym mharagraff 5, ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(ea) plants of Palmae, intended for planting and having a diameter of the stem at the base of over 5 cm and belonging to the following genera or species: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Borassus flabellifer L., Brahea Mart., Butia Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume ex Mart., Caryota cumingii Lodd, ex Mart., Chamaerops L., Cocos nucifera L., Corypha elata Roxb., Corypha gebang Mart., Elaeis guineensis Jacq., Jubaea Kunth., Livistona R. Br., Metroxylon sagu Rottb., Oreodoxa regia Kunth., Phoenix L., Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax ., Washingtonia Raf.; or”.

(3) Yn Rhan B—

(a)     yn lle paragraff 1 rhodder—

1. Plants, other than seeds, intended for planting, other than Clausena Burm. f. and Murraya Koenig ex L.; a

(b)     ym mharagraff 5(c), yn lle “Quercus L or Solidago L.” rhodder “Quercus L.,Rhododendron spp., not including Rhododendron simsii Planch, Solidago L. or Viburnum spp.”.

 

 

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

5 Mehefin 2014



([1])           O.S. 2010/2690. 

([2])           1972 p.68; diwygiwyd adran 2(2) gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51), adran 27(1)(a), a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7), Rhan 1 o’r Atodlen.

([3])           O.S. 2006/1643 (Cy.158).

([4])           O.S. 2004/2245 (Cy.209).

([5])           OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t.112.

([6])           Diwygiwyd Atodlen 8 gan O.S 2008/2781 (Cy.248). Erthygl 2(13)(b).